source
stringlengths 4
1.98k
| target
stringlengths 3
2.07k
|
---|---|
Article 6 (1) and (2) (restrictions on the presence of certain substances); | Erthygl 6 (1) a (2) (cyfyngiadau ar bresenoldeb sylweddau penodol); |
Article 7 (restrictions on the use of certain source materials); | Erthygl 7 (cyfyngiadau ar ddefnyddio tardd-ddeunyddiau penodol); |
Article 10 (restriction relating to the Community list of flavourings and source materials); | Erthygl 10 (cyfyngiad sy'n ymwneud â'r rhestr Gymunedol o gyflasynnau a thardd-ddeunyddiau); |
Article 14 (1) (labelling of flavourings not intended for sale to the final consumer); | Erthygl 14 (1) (labelu cyflasynnau na fwriedir iddynt gael eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf); |
Article 17 (labelling of flavourings intended for sale to the final consumer); and | Erthygl 17 (labelu cyflasynnau y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf); ac |
Article 19 (2) and (3) (reporting obligations on food business operators). | Erthygl 19 (2) a (3) (rhwymedigaethau hysbysu ar weithredwyr busnesau bwyd). |
Anyone convicted of an offence under paragraph (1) is liable on summary conviction to a fine not exceeding level 5 on the standard scale. | Mae unrhyw berson a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol. |
Enforcement authorities | Awdurdodau gorfodi |
4. It is the duty of each food authority within its area and each port health authority within its district to execute and enforce these Regulations and the EU Regulation. | 4. Dyletswydd pob awdurdod bwyd o fewn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad UE. |
Application of various sections of the Food Safety Act 1990 | Cymhwyso gwahanol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 |
5. - (1) The following provisions of the Act apply for the purposes of these Regulations with the modification that any reference in those provisions to the Act or Part of it is to be construed as a reference to these Regulations - | 5. - (1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn - |
section 21 (defence of due diligence) (6) with the modification that - | adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) (6) gyda'r addasiad - |
subsections (2) to (4) are to apply in relation to an offence of contravening regulation 3 (2) (a) to (g) as they apply in relation to an offence under section 14 or 15, and | bod is-adrannau (2) i (4) i fod yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o fynd yn groes i reoliad 3 (2) (a) i (e) fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, a |
section 35 (1) (punishment of offences) (7), in so far as it relates to offences under section 33 (1) as applied by paragraph (3) (b); | adran 35 (1) (cosbi tramgwyddau) (7), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33 (1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) (b); |
section 35 (2) and (3) (8), in so far as it relates to offences under section 33 (2) as applied by paragraph (3) (c); | adran 35 (2) a (3) (8), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33 (2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3) (c); |
section 36A (offences by Scottish partnerships) (9). | adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd) (9). |
In the application of section 32 of the Act (powers of entry) for the purposes of these Regulations, the references in subsection (1) to the Act are to be construed as including references to the EU Regulation. | Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) o'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at y Rheoliad UE. |
The following provisions of the Act apply for the purposes of these Regulations with the modification that any reference in those provisions to the Act is to be construed as including a reference to the EU Regulation and these Regulations - | Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i'w ddehongli fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at y Rheoliad UE a'r Rheoliadau hyn - |
section 3 (presumption that food is intended for human consumption) with the modification that the references to "sold" and "sale" are deemed to include references to "placed on the market" and "placing on the market" respectively; | adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta) gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at "sold" a "sale" yn cynnwys cyfeiriadau at "placed on the market" a "placing on the market" yn eu trefn; |
section 33 (2), with the modification that the reference to "any such requirement as is mentioned in subsection (1) (b) above" is deemed to be a reference to any such requirement as is mentioned in that subsection as applied by sub-paragraph (b); and | adran 33 (2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1) (b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); ac |
section 44 (protection of officers acting in good faith). | adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll). |
Section 34 of the Act (time limit for prosecutions) applies to offences under regulation 3 as it applies to offences punishable under section 35 (2) of the Act. | Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 3 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35 (2) o'r Ddeddf. |
Condemnation of Food | Condemnio bwyd |
6. Where any food is certified by a food analyst as being food which it is an offence under these Regulations to place on the market, that food must be treated for the purposes of section 9 of the Act (under which a food may be seized and destroyed under an order of a justice of the peace) as failing to comply with food safety requirements. | 6. Os bydd dadansoddydd bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y mae'n dramgwydd, o dan y Rheoliadau hyn, ei roi ar y farchnad, rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a'i ddifa ar orchymyn ynad heddwch oddi tani) fel bwyd sy'n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd. |
Amendments to the Food Labelling Regulations 1996 | Diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 |
7. - (1) The Food Labelling Regulations 1996 (10) are amended in accordance with paragraphs (2) and (3). | 7. - (1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (10) yn cael eu diwygio'n unol â pharagraffau (2) a (3). |
for the definition of "the additives regulations" substitute the following - | yn lle'r diffiniad o "the additives regulations" rhodder y canlynol - |
for the definition of "flavouring" when used as a noun substitute the following - | yn lle'r diffiniad o "flavouring" pan y'i defnyddir fel enw rhodder y canlynol - |
the definitions of "flavouring preparation," "flavouring substance," "process flavouring" and "smoke flavouring" are omitted; and | mae'r diffiniadau o "flavouring preparation", "flavouring substance", "process flavouring" a "smoke flavouring" yn cael eu hepgor; ac |
after the definition of "recommended daily allowance" insert the following definition - | ar ôl y diffiniad o "recommended daily allowance" mewnosoder y diffiniad canlynol - |
In regulation 14 (names of ingredients) - | Yn rheoliad 14 (enwau cynhwysion) - |
for paragraph (5) substitute the following - | yn lle paragraff (5) rhodder y canlynol - |
for paragraph (6) substitute the following - | yn lle paragraff (6) rhodder y canlynol - |
paragraphs (7) and (8) are omitted. | mae paragraffau (7) ac (8) yn cael eu hepgor. |
8. The Flavourings in Food Regulations 1992 (11) and the Flavourings in Food (Amendment) Regulations 1994 (12) are revoked in so far as they apply in relation to Wales. | 8. Dirymir Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd 1992 (11) a Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Diwygio) 1994 (12) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. |
Deputy Minister for Social Services, under authority of the Minister for Health and Social Services, one of the Welsh Ministers | Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru |
1. These Regulations provide for the execution and enforcement in Wales of Regulation (EC) No. 1334/2008 of the European Parliament and of the Council on flavourings and certain food ingredients with flavouring properties for use in and on foods and amending Council Regulation (EEC) No. 1601/91, Regulations (EC) No. 2232/96 and (EC) No. 110/2008 and Directive 2000/13/EC (OJ No. L354, 31.12.2008, p.34) ("the EU Regulation"). | 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt nodweddion cyflasynnau ar gyfer eu defnyddio mewn bwydydd ac ar fwydydd ac sy'n diwygio Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91, Rheoliadau (EC) Rhif 2232/96 ac (EC) Rhif 110/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/EC (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34) ("y Rheoliad UE"). |
2. These Regulations provide that it is an offence to contravene the requirements of the EU Regulation by - | 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ei bod yn dramgwydd mynd yn groes i ofynion y Rheoliad UE - |
using flavourings or food ingredients with flavouring properties in or on foods if they pose a risk to the health of consumers or if their use misleads consumers (regulation 3 (2) (a; | drwy ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt nodweddion cyflasynnau mewn bwydydd neu ar fwydydd os ydynt yn cyflwyno risg i iechyd defnyddwyr neu os yw'r defnydd ohonynt yn camarwain cwsmeriaid (rheoliad 3 (2) (a; |
placing on the market any flavouring or food ingredient with flavouring properties or food in which they are present if their use does not comply with the EU Regulation (regulation 3 (2) (b; | drwy roi ar y farchnad unrhyw gyflasyn neu gynhwysyn bwyd ac iddo nodweddion cyflasynnau neu fwyd y maent yn bresennol ynddo os nad yw'r defnydd ohonynt yn cydymffurfio â'r Rheoliad UE (rheoliad 3 (2) (b; |
adding certain proscribed substances to food (regulation 3 (2) (c; | drwy ychwanegu sylweddau gwaharddedig penodol at fwyd (rheoliad 3 (2) (c; |
using certain proscribed source materials for the production of flavourings or food ingredients with flavouring properties, or using certain specified source materials other than in accordance with prescribed conditions (regulation 3 (2) (d; | drwy ddefnyddio tardd-ddeunyddiau gwaharddedig penodol ar gyfer cynhyrchu cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt nodweddion cyflasynnau, neu drwy ddefnyddio rhai tardd-ddeunyddiau penodedig heb fod yn unol ag amodau rhagnodedig (rheoliad 3 (2) (ch; |
placing on the market or using certain specified flavourings or source materials unless they are included in the authorised EU list (regulation 3 (2) (e; | drwy roi ar y farchnad neu ddefnyddio rhai cyflasynnau neu dardd-ddeunyddiau penodedig oni chynhwysir hwy yn rhestr awdurdodedig yr UE (rheoliad 3 (2) (d; |
labelling flavourings not intended for sale to the final consumer other than in accordance with the conditions set out in the EU Regulation (regulation 3 (2) (f; | drwy labelu cyflasynnau nas bwriadwyd ar gyfer eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf heb i'r labelu fod yn unol â'r amodau a osodir yn y Rheoliad UE (rheoliad 3 (2) (dd; |
labelling flavourings that are intended for sale to the final consumer other than in accordance with the conditions set out in the EU Regulation (regulation 3 (2) (g; and | drwy labelu cyflasynnau a fwriadwyd ar gyfer eu gwerthu i'r defnyddiwr olaf heb i'r labelu fod yn unol â'r amodau a osodir yn y Rheoliad UE (rheoliad 3 (2) (e; ac |
failing to provide certain specified information when required (regulation 3 (2) (h. | drwy fethu â darparu gwybodaeth benodol a phenodedig pan fo hynny'n ofynnol (rheoliad 3 (2) (f. |
designate the authorities having the duty to enforce these Regulations and the EU Regulation (regulation 4); | yn dynodi'r awdurdodau sydd â'r ddyletswydd i orfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad UE (rheoliad 4); |
apply certain provisions of the Food Safety Act 1990 for the purposes of these Regulations (regulation 5); | yn cymhwyso darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 5); |
provide that where food does not comply with the EU Regulation such that it would be an offence under these Regulations to place it on the market, it is to be treated as failing to comply with food safety requirements for the purposes of seizure and destruction under section 9 of the 1990 Act (regulation 6); and | yn darparu pan na fo bwyd yn cydymffurfio â'r Rheoliad UE i'r graddau y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w roi ar y farchnad, mae hynny i'w drin fel methiant i gydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd at ddibenion ei atafaelu a'i ddifa o dan adran 9 o Ddeddf 1990 (rheoliad 6); ac |
make amendments to the Food Labelling Regulations 1996 (regulation 7). | yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 7). |
4. A regulatory impact assessment as to the likely costs and benefits of complying with these Regulations has been prepared in relation to these Regulations and is available from the Food Standards Agency, 11th Floor, Southgate House, Wood Street, Cardiff, CF10 1EW. | 4. Mae asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn a'r buddiannau tebygol a fydd yn deillio o hynny wedi cael ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. |
1990 c. 16. Section 1 (1) and (2) (definition of "food") was substituted by S.I. 2004/2990. Sections 17 and 48 were amended by paragraphs 12 and 21 respectively of Schedule 5 to the Food Standards Act 1999 (1999 c. 28), "the 1999 Act." Section 48 was also amended by S.I. 2004/2990. Section 26 (3) was amended by Schedule 6 to the 1999 Act. Section 53 (2) was amended by paragraph 19 of Schedule 16 to the Deregulation and Contracting Out Act 1994 (1994 c. 40), Schedule 6 to the 1999 Act, S.I. 2004/2990 and S.I. 2004/3279. | 1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1 (1) a (2) (y diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), "Deddf 1999". Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26 (3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53 (2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279. |
Functions formerly exercisable by "the Ministers" (being, in relation to England and Wales and acting jointly, the Minister of Agriculture, Fisheries and Food and the Secretaries of State respectively concerned with health in England and food and health in Wales and, in relation to Scotland, the Secretary of State) so far as exercisable in relation to Wales, were transferred to the National Assembly for Wales by The National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (S.I. 1999/672) as read with section 40 (3) of the 1999 Act and are now vested in the Welsh Ministers by virtue of section 162 of, and paragraph 30 of Schedule 11 to, the Government of Wales Act 2006 (2006 c. 32). | Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol), i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40 (3) o Ddeddf 1999, ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. |
OJ No. L31, 1.2.2002, p.1. That Regulation was last amended by Commission Regulation (EC) No. 596/2009 of the European Parliament and of the Council adapting a number of instruments subject to the procedure referred to in Article 251 of the treaty to Council Decision 1999/468/EC with regard to the regulatory procedure with scrutiny: Adaptation to the regulatory procedure with scrutiny - Part Four (OJ No. L188, 18.7.2009, p.14). | OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu - Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). |
Section 35 (1) is amended by the Criminal Justice Act 2003 (2003 c. 44), section 280 (2), Schedule 26, paragraph 42, from a date to be appointed. | Diwygir adran 35 (1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), adran 280 (2), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu. |
Section 36A was inserted by the Food Standards Act 1999 (1999 c. 28), section 40 (1), Schedule 5, paragraph 16. | Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), adran 40 (1), Atodlen 5, paragraff 16. |
S.I. 1996/1499. Regulation 14 (5) was previously amended by S.I. 2004/249 (W.26) and S.I. 2004/3022 (W.261). Regulation 34B was amended by S.I. 2005/2835 (W.200) and S.I. 2008/1268 (W.128). | O.S. 1996/1499. Diwygiwyd rheoliad 14 (5) yn flaenorol gan O.S. 2004/249 (Cy.26) ac O.S. 2004/3022 (Cy.261). Diwygiwyd rheoliad 34B gan O.S. 2005/2835 (Cy.200) ac O.S. 2008/1268 (Cy.128). |
2010 No. 2945 (W.244) | 2010 Rhif 2945 (Cy.244) |
1 February 2011 | 1 Chwefror 2011 |
This Order is made in exercise of the powers conferred on the National Assembly for Wales by paragraph 8 (1) of Schedule 8 and paragraph 3 (1) of Schedule 10 to the Traffic Management Act 2004 (1) and now vested in the Welsh Ministers (2). | Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8 (1) o Atodlen 8 a pharagraff 3 (1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru (2). |
Pembrokeshire County Council has applied to the Welsh Ministers for an order to be made under these powers with respect to the whole of its area. | Mae Cyngor Sir Penfro wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru ar iddynt wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn perthynas â'r cyfan o'i ardal. |
The Welsh Ministers have consulted the chief officer of the Dyfed Powys Police in accordance with the requirements of paragraphs 8 (3) of Schedule 8 and 3 (4) of Schedule 10 to the Traffic Management Act 2004. | Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8 (3) o Atodlen 8 a 3 (4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004. |
1. The title of this Order is the Civil Enforcement of Parking Contraventions (County of Pembrokeshire) Designation Order 2010 and it comes into force on 1 February 2011. | 1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Benfro) 2010 a daw i rym ar 1 Chwefror 2011. |
2. - (1) The Welsh Ministers designate the area described in paragraph (2) as - | 2. - (1) Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir ym mharagraff (2) yn - |
The designated area is the County of Pembrokeshire. | Yr ardal a ddynodir yw Sir Benfro. |
This Order designates the County of Pembrokeshire as a civil enforcement area and a special enforcement area for the purposes of Part 6 of the Traffic Management Act 2004. The practical effect of the Order is to enable Pembrokeshire County Council to enforce parking contraventions within the County of Pembrokeshire through a civil law regime, as opposed to enforcement by police or traffic wardens in a criminal law context. | Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi Sir Benfro yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Penfro i orfodi'r gyfraith am dramgwyddau parcio yn Sir Benfro drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol. |
These powers are exercisable by the Welsh Ministers by virtue of section 162 of, and paragraph 30 of Schedule 11 to, the Government of Wales Act 2006, pursuant to which the Welsh Ministers are the 'appropriate national authority' as regards Wales under section 92 (1) of the Traffic Management Act 2004. | Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, yn unol â hwy Gweinidogion Cymru yw'r 'awdurdod cenedlaethol priodol' o ran Cymru o dan adran 92 (1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. |
2010 No. 2953 (W.245) | 2010 Rhif 2953 (Cy.245) |
The Welsh Ministers in exercise of the powers conferred on the National Assembly for Wales by sections 102 and 181 of the Education and Inspections Act 2006 (1) and now vested in them (2) make the following Regulations: | Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 102 a 181 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy (2) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: |
1. - (1) The title of these Regulations is the Education (Reintegration Interview) (Wales) Regulations 2010 and they come into force on 5 January 2011. | 1. - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyfweliad Ailintegreiddio) (Cymru) 2010 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2011. |
These Regulations apply in relation to maintained schools in Wales (3). | Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru (3). |
These Regulations apply to a temporary exclusion imposed on or after 5 January 2011. | Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiad dros dro a osodwyd ar 5 Ionawr 2011 neu ar ôl hynny. |
where a pupil is excluded during the course of a school day but before the beginning of any afternoon session on that day, that day is to be treated for these purposes as the first day to which the exclusion relates, | pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond cyn cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod hwnnw i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef, |
where a pupil is excluded during the course of a school day but after the beginning of any afternoon session on that day, the following day is to be treated for these purposes as the first day to which the exclusion relates, | pan gaiff disgybl ei wahardd yn ystod diwrnod ysgol ond ar ôl cychwyn unrhyw sesiwn brynhawn ar y diwrnod hwnnw, mae'r diwrnod wedyn i gael ei drin at y dibenion hyn fel y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef, |
a school which provides both primary and secondary education is regarded as a primary school if the temporarily excluded pupil receives primary education and otherwise as a secondary school. | caiff ysgol sy'n darparu addysg gynradd ac addysg uwchradd ei thrin fel ysgol gynradd os yw'r disgybl a waharddwyd dros dro yn cael addysg gynradd ac fel arall fel ysgol uwchradd. |
Duty to request a reintegration interview | Dyletswydd i wneud cais am gyfweliad ailintegreiddio |
3. - (1) The head teacher of a maintained school must request a parent (4) of a temporarily excluded pupil, being an individual who resides with the pupil, to attend a reintegration interview in the cases prescribed by paragraph (2). | 3. - (1) Rhaid i bennaeth ysgol a gynhelir wneud cais i riant (4) disgybl a waharddwyd dros dro, a'r rhiant hwnnw yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r disgybl, fynychu cyfweliad ailintegreiddio yn yr achosion a ragnodir ym mharagraff (2). |
Subject to paragraph (3), the cases prescribed are where a pupil of a compulsory school age is temporarily excluded on disciplinary grounds from - | Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr achosion a ragnodir yw pan fo disgybl o oed ysgol gorfodol yn cael ei wahardd dros dro ar sail ddisgyblaethol - |
a primary school for any fixed period, or | o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu |
a secondary school for any fixed period of six or more school days. | o ysgol uwchradd am unrhyw gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy. |
A case is not prescribed where - | Nid yw achos wedi'i ragnodi - |
the first day to which the exclusion relates falls within the last ten school days of the last term in any school year, or | pan fo'r diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef yn dod o fewn deng niwrnod ysgol diwethaf y tymor diwethaf o unrhyw flwyddyn ysgol, neu |
the head teacher expects the pupil to cease to attend the school within the period described in regulation 4 (2) for a reason unconnected with the pupil's behaviour. | pan fo'r pennaeth yn disgwyl i'r disgybl beidio â mynychu'r ysgol o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn rheoliad 4 (2) am reswm nad yw'n gysylltiedig ag ymddygiad y disgybl. |
Form of request and timing of interview | Ffurf y cais ac amseriad y cyfweliad |
4. - (1) Where the duty in regulation 3 applies the head teacher must give notice in writing to the parent of the following matters - | 4. - (1) Pan fo'r ddyletswydd yn rheoliad 3 yn gymwys rhaid i'r pennaeth roi hysbysiad ysgrifenedig i'r rhiant o'r materion canlynol - |
the date, time and duration of the reintegration interview, | dyddiad, amser a hyd y cyfweliad ailintegreiddio, |
the purpose of the interview, and | diben y cyfweliad, ac |
the duty of the court, in deciding whether to make a parenting order in respect of a parent under section 20 of the Anti-social Behaviour Act 2003 (5), to take into account a failure by the parent without reasonable excuse to attend a reintegration interview when requested to do so in accordance with these Regulations. | dyletswydd y llys, wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn rhianta ai peidio mewn perthynas â rhiant o dan adran 20 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (5), i roi ystyriaeth i fethiant gan y rhiant heb esgus rhesymol i fynychu cyfweliad ailintegreiddio pan gaiff gais i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn. |
Subject to paragraph (4), the interview must be held on a school day within the period- | Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r cyfweliad gael ei gynnal ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod - |
beginning with the first day to which the exclusion relates, and | sy'n dechrau ar y diwrnod cyntaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef, a |
ending with the fifteenth school day falling after the last day to which the exclusion relates (whether or not that school day falls in the same term). | sy'n gorffen ar y pymthegfed diwrnod ysgol sy'n dod ar ôl y diwrnod olaf y mae'r gwaharddiad yn ymwneud ag ef (pa un ai a yw'r diwrnod ysgol hwnnw yn dod o fewn yr un tymor ai peidio). |
Before giving the notice the head teacher must use reasonable endeavours to arrange the interview for a date and time (within the period) suggested by the parent. | Cyn rhoi'r hysbysiad rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad ar ddyddiad ac ar amser (o fewn y cyfnod) a awgrymir gan y rhiant. |
The interview may be held on a day within the period referred to in paragraph (2) which is not a school day if the head teacher and parent so agree. | Caniateir cynnal y cyfweliad ar ddiwrnod o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y pennaeth a'r rhiant yn cytuno ar hynny. |
The notice must be given no later than six school days before the date of the reintegration interview. | Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod ysgol cyn dyddiad y cyfweliad ailintegreiddio. |
Combination of notices | Cyfuno hysbysiadau |
5. A notice relating to a reintegration interview given pursuant to regulation 4 may be combined with a notice given to the parent in accordance with regulations made under section 52 (3) (a) of the Education Act 2002 (6) (prescribed persons to be given information relating to any exclusion). | 5. Caniateir cyfuno hysbysiad sy'n ymwneud â chyfweliad ailintegreiddio a roddir yn unol â rheoliad 4 gyda hysbysiad a roddir i'r rhiant yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 52 (3) (a) o Ddeddf Addysg 2002 (6) (personau rhagnodedig sydd i gael gwybodaeth am unrhyw waharddiad). |
These Regulations prescribe the circumstances in which a head teacher must request the parents of an excluded pupil of compulsory school age to attend a reintegration interview under section 102 of the Education and Inspections Act 2006 ("the 2006 Act"), and the procedure by which the interview must be arranged. | Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid i bennaeth wneud cais i rieni disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd fynychu cyfweliad ailintegreiddio o dan adran 102 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (" Deddf 2006 "), ac yn rhagnodi'r weithdrefn y mae'n rhaid trefnu'r cyfweliad oddi tani. |
Regulation 3 requires the head teacher to request an interview with a parent of a pupil of compulsory school age who has been excluded from a primary school for any fixed period, or from a secondary school for a fixed period of six or more school days. The parent must be an individual who resides with the child. The head teacher need not make such a request if the exclusion starts within ten days of the end of the summer term or the pupil is expected to leave the school for a reason other than behaviour (for example if the pupil is moving to a school in a different area). | Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth wneud cais am gyfweliad â rhiant disgybl o oed ysgol gorfodol a waharddwyd o ysgol gynradd am unrhyw gyfnod gosodedig, neu o ysgol uwchradd am gyfnod gosodedig o chwe niwrnod ysgol neu fwy. Rhaid i'r rhiant fod yn unigolyn sy'n preswylio gyda'r plentyn. Nid oes angen i bennaeth wneud cais o'r fath os yw'r gwaharddiad yn dechrau o fewn deng niwrnod i ddiwedd tymor yr haf neu os disgwylir i'r disgybl adael yr ysgol am reswm heblaw ei ymddygiad (er enghraifft os yw'r disgybl yn symud i ysgol mewn ardal wahanol). |
Regulation 4 requires that the request is made by a notice in writing and specifies what information must be contained in that notice. It prescribes a period within which the interview must take place and requires the interview to take place on a school day within that period, though it may take place on a non-school day within that period if the parent and head teacher agree. The head teacher must use reasonable endeavours to arrange the interview for a date and time within the period suggested by the parent. The notice must be given no later than six days before the interview is to take place. | Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r cais gael ei wneud drwy hysbysiad ysgrifenedig ac yn pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi yn yr hysbysiad hwnnw. Mae'n rhagnodi cyfnod y mae'n rhaid i'r cyfweliad ddigwydd o'i fewn ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfweliad ddigwydd ar ddiwrnod ysgol o fewn y cyfnod hwnnw, er y caiff ddigwydd ar ddiwrnod o fewn y cyfnod hwnnw nad yw'n ddiwrnod ysgol os bydd y rhiant a'r pennaeth yn cytuno ar hynny. Rhaid i'r pennaeth wneud ymdrech resymol i drefnu'r cyfweliad o fewn y cyfnod ar ddyddiad ac ar amser a awgrymir gan y rhiant. Rhaid i'r hysbysiad gael ei roi dim hwyrach na chwe niwrnod cyn bod y cyfweliad i ddigwydd. |
Regulation 5 allows a notice from a head teacher under these Regulations to be combined with the notice informing the parent of the exclusion (under regulations made under section 52 (3) (a) of the Education Act 2002). | Mae rheoliad 5 yn caniatáu cyfuno hysbysiad oddi wrth bennaeth o dan y Rheoliadau hyn a'r hysbysiad yn rhoi gwybod i'r rhiant am y gwaharddiad (o dan reoliadau a wnaed o dan adran 52 (3) (a) o Ddeddf Addysg 2002). |
Subsets and Splits